Llythyr oddi wrth [Richard Morris Griffith] Carneddog, Carneddi, Nantmor gerllaw Beddgelert at Ifor Williams

Scope and Content

Bu'n brysur yn codi a phigo tatws a danfon y defaid cadw i Eifionydd. Roedd ei lythyr yn well na chant o boteli physig.

Mae'r Rhyfel mor ddychrynllyd ac yn drysu meddwl dyn. Mae ei fab Dick yng Nghofentry yn engineer. Maent fel barn yn ei ban eisiau iddo ymuno ond nid yw'n 18 eto.

Byddai'n ddiolchgar o adolygiad ar Waith Glasfu i'r Beirniad. Mae mewn penbleth efo rhai heb dalu. Ni chafodd y gwaith sylw oherwydd daeth allan yn union i wyneb y Rhyfel.

Cafodd 10 swllt am y gyfres "Hen Emynau Gwlad" i'r Traethodydd. Hen dro na fuasai posibl ei gael i roi darlith llafar gwlad neu ar Rys Goch a Dafydd. Mae'n anfon "rough copies" o gywyddau Rhys a Dafydd a gopïodd ddeng mlynedd yn ôl yn nhy Myrddin Fardd.