Llyfr siop

Scope and Content

Go ddilewyrch yw ei gynnwys o ran nwyddau a phrisiau, ac nid oes fawr ddyddiad o'i fewn. Tybed a'i llyfr siop Pont y Twr ydoedd a gedwid gan Robert, un o feibion John Roberts yr hynaf? Neu siop Cornelius Jones, Llanbabo (gwel MS. 4, t.1; MS. 5, A53, a Hanes Meth. Arfon iv, 259, 263, 264).

Amlwg mai siop yn ardal Ysgoldy ydoedd. Y peth rhyfeddaf yn y llyfr hwn yw ei ffordd hen ffasiwn o ddisgrifio cwsmeriaid, fel "John Hughes lodger Ty'nclwt" (t.14), "mab i'r wraig dew" (13), "chwaer yng nghyfraith Francis"(41), "Evan y Coachman" (t.58), "mam William Rolant y Blaenor" (t.63). Pwy ddisgwyliai i lyfr siop gyfeirio at ddyn fel Hugh William y gwrthgiliwr" (t.60), yr un Hugh Williams, y mae'n debyg, ag a ddisgrifir gan y Parch William Hobley fel wedi cwympo oddiwrth ras (Methodistiaeth Arfon, iv, 200). Efallai mai'r entries doniolaf yw "y wraig weddw tu hwnt i'r Bwlch hono nad oeddwn ddim yn rhwydd i'w choelio" (t. 67); "gwraig Thomas Roberts do not mention the Husband about it" (t.85); "y lodes y bum yn mendio llygad ei chwaer" (t. 108).