Dyddiadur

Scope and Content

Gwaelod hwn yw Kearsley's Pocket Ledger am 1835, a dyddiadur R.R. am y flwyddyn honno ydyw.

Manylion sych, dieneiniad, ac aneglur lawer ohonynt. Llawer o ffigyrau ynghylch gwair, ceirch, cyflogau, bargeinion, etc. Hoffem gael mwy o eglurhad ar 'Oats to Rel rod 1836' a geir uwchben rhesi o nymbars ar un o'r dail gwynion wrth gwt Rhagfyr, 1836. Efallai mai'r ddau beth mwyaf diddorol yw sylw a ysgrifennwyd gan R.R. ar gyfer list bancers Llundain (t.6 ar y dechre) - "Mae llawar wedi tori, a mi dorith llawar eto", a'r cysylltiadau ariannol rhwng Richard Roberts a'i frawd Daniel (gwel inset ar y diwedd). Sylwer yn arbennig ar y 'profit glo', £366.9.1.