Llythyr: G. ac Ann Owen, Glangors, Caergeiliog at E. Madoc Jones

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDG/1/1/113
  • Alternative Id.
      GB 221 WDG/121
  • Dates of Creation
      1902 Medi 30
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: G. ac Ann Owen, Glangors, Caergeiliog at E. Madoc Jones. Mae John wedi anfon gair atynt, ac mae yn meddwl nad yw Lladin a Ffrangeg o fawr lês iddo, ac yn meddwl y buasai yn well iddo gymeryd Cymraeg yn eu lle. Yr oeddynt wedi meddwl iddo fynd yn fancer ond erbyn hyn mae ei dad braidd wedi troi, gan fod amryw wedi dweud wrthynt nad oedd bancar ddim rhwy lawer o swydd os na fyddai'n bosibl cael mynd yn reolwr ac y byddai'n lled hên cyn cael swydd felly. 'Roedd peirianydd wedi galw yn eu t?, ac yn dweud ei fod dau o'r ysgol Sul yn brentisiaid. Maen't yn gofyn am gyngor ynglyn a'i ddyfodol, ac yn awyddus o gael ateb yn Gymraeg. Fe fydd Mrs. Owen yn anfon gair o'i theimlad personol rai o'r dyddiau nesaf. Nid oes cyfle y tro hwn gan ei bod ar frys i ddal y post.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da / Good condition