Llythyr: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDC/1/3/1/15
  • Alternative Id.
      GB 221 WDC/42
  • Dates of Creation
      1881 Mai 24
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: Ann Jones, Amlwch at ei gwr [Robert Jones]. Mae'n cael ei siomi - yn disgwyl ers cyhyd am ei weld. Mae wedi cael amser annifyr iawn - Margaret yn ddigon gwan, a'i stumog yn ddrwg. Mae Richard yn reit iach, ac nid oes dim ar ei feddwl ond eisiau mynd i'r môr a Robert yn gwrthod gwrando arno. Mae o bob dydd yn cerdded i d? ei hewythr Wil Thomas i edrych gaiff o fynd hefo William. Mae yn anfon Llyfr Cargo 'Half Year Return' a'r 'Light Bill' iddo heddiw. Mae Joseph wedi mynd i Holyhead efo'r 'Packets' Mae o a'i wraig yn dweud eu bod yn mynd i fyw yno. Mae yn gofyn iddo tybed fyddai yn ddoeth anfon at Capten Jones, "Fanny" iddo roi nodyn i fam Joseph fod eisiau y Log Book rhag ofn iddynt fynd a fo i ffwrdd. Ni chlywodd ddim beth mae y "Catherine Williams" yn ei wneud. Mae gwaith yn yr hen bonciau annwyl yn cau oherwydd methu cael lwfans i fynd ddim pellach na th? R. Hughes. Fe fydd chwith garw iddynt. Mae yn dywydd braf i'r "Amanda" os yw hi yn mynd efo gwynt teg. 'Roedd Mr. Evans yno ddoe yn gofyn amdano. Mae yn hwyr handi ei weld yn dod adre i godi dipyn ar ei meddwl.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da/Good condition