Llythyr: John Owen, Tanymynydd, Llanfair P.G. at ei frawd

  • This material is held at
  • Reference
      GB 221 WDAAJ/1/20
  • Alternative Id.
      GB 221 WDAAJ/20
  • Dates of Creation
      1886 Medi.15
  • Language of Material
      Cymraeg
  • Physical Description
      1 eitem

Scope and Content

LLYTHYR: John Owen, Tanymynydd, Llanfair P.G. at ei frawd, yn cydnabod ei lythyr ac yn gofyn beth am iddo ysgrifennu llythyr dipyn hwy y tro nesaf. Buasai o gymorth iddo ef gael Ymarfer ysgrifennu a disgrifio ei brofiadau ac yn fwy na hynny o werth mawr iddynt gartref gan fod bob gair oddi wrtho o ddiddordeb iddynt. Sonia am y llyfr 'Rhys Lewis' ac mae yn gofyn i'w frawd os yr hoffai gael copi. Sonia hefyd am enedigaeth mab i Hugh sef Idwal Hugh Owen; am 'Steddfod Caernarfon ac am Robert, mab William Roberts, Cwmyglo wedi mynd i Vermont America rhyw 15 milltir oddi wrth Hugh. Mae'n gofyn i'w frawd anfon ato i Normal College Bangor y tro nesaf, mi fydd yno tan y Nadolig. Mewn olnodiad mae yn anfon neges oddi wrth eu mam sef ei bod hi eisiau gweld ei mab, ac am iddo fod yn hogyn da a mynd i'r capel.Y llythyr mewn darnau, wedi dod oddi wrth ei gilydd ar y plygiad.

Access Information

Dim cyfyngiadau/ No Restrictions

Note

Os gwelwch yn dda archebwch y dogfenau gan ddefnyddio y rhif cyfeirnod amgen (lle ddarperidd) / Please order documents using the alternative reference number (where provided)

Physical Characteristics and/or Technical Requirements

Cyflwr da /Good condition