Ysgol Bro Cernyw Llangernyw, cofnodion o/records of

Scope and Content

Agorodd Ysgol Bro Cernyw yn 1969.

Agorodd yr ysgol newydd hon ar 27 Hydref 1969 fel ysgol ardal gyfunol a chanolfan gymunedol yn Llangernyw. Cafodd ei galw’n Ganolfan Addysg Bro Cernyw ac roedd y gost am yr ysgol yn £32,000 ac £13,000 am y ganolfan gymunedol. Roedd gan yr ysgol le i 72 disgybl ac roedd yn cymryd lle 4 o ysgolion llai oedd wedi cau yn Llangernyw a’r ardal gyfagos. Roeddent yn cynnwys Ysgol a Reolir yn Llangernyw, Pandy Tudur, Trofarth a Gwytherin.

Pennaeth yr ysgol newydd oedd W Trevor Jones. Roedd adeilad hen ysgol y pentref yn cael ei ddefnyddio ar gyfer gweithgareddau i ieuenctid.

Yn Ionawr 2016 roedd yna 101 disgybl yn yr ysgol hon rhwng 3-11 oed ac mae’n ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mae hwn yn gasgliad iaith Gymraeg. Mae'n bolisi gennym i gatalogio eitem yn yr iaith y mae yn ysgrifenedig.

Ysgol Bro Cernyw opened in 1969.

This new school was opened on 27th October 1969 as a combined area school and community centre at Llangernyw. It was called the Bro Cernyw Education Centre and cost £32,000 for the school and £13,000 for the community centre. The school was to accommodate 72 pupils and replaced 4 smaller schools that had been closed in Llangernyw and the surrounding area. They were Llangernyw Controlled School, Pandy Tudur, Trofarth and Gwytherin.

The Head Teacher of the new school was W Trevor Jones. The old village school building was to be used for youth activities.

In January 2016 this school had 101 pupils aged 3-11 years and is a Welsh medium school.

This is a Welsh language collection. It is our policy to catalogue an item in the language it is written.

Access Information

Mae'r holl gofnodion ysgol sy'n cynnwys gwybodaeth bersonol neu sensitif ar gau am 75 mlynedd. Mae hyn yn cynnwys llyfrau log, cofrestri derbyn a phresenoldeb a rhai llyfrau cofnodion.